This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Seidir Ddoe - Atgofion drwy Ganeuon:

  • £7.99
  • Atgofion drwy Ganeuon: Seidir Ddoe
  • Linda Griffiths
  • ISBN: 9781845276027
  • Cyhoeddi: Tachwedd 2017
  • Fformat: Clawr Meddal, 197x127 mm, 128 tudalen
Mae gan Linda Griffiths - Linda Plethyn i'w ffrindiau - un o'r lleisiau mwyaf nodedig a glywyd erioed. Gynt gyda'r grŵp gwerin Plethyn ac wedyn fel unawdydd, mae llais y ferch ffarm o ardal y ffin ym Maldwyn wedi ein swyno ers y saithdegau.
Gwybodaeth Bellach:
Drwy ei chaneuon, cawn ei hanes a'i hatgofion yn ardal Pontrobert a Meifod, lle treuliodd ei phlentyndod a'i hieuenctid cynnar cyn iddi symud i ardal Aberystswyth tua chanol y saithdegau, ac ymsefydlu wedi hynny ym Mhenbont-rhyd-y-beddau yng ngogledd Ceredigion, i ddilyn gyrfa fel cyfieithydd llawrydd a chodi tair o ferched, sy'n dilyn llwybr cerddorol ôl eu mam fel y grŵp 'Sorella'.
Yn y gyfrol hon, clywn am y bobl sydd wedi dylanwadu ar y caneuon, a cheir yma hefyd ddarlun o ardal a theulu sy'n agos iawn at ei chalon.