This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Cyhoeddi Mai 2001
- Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
- Darluniwyd gan Siôn Morris
- Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
- Fformat: Clawr Meddal, A5, 72 tudalen
Cyfrol ddifyr o dros hanner cant o gerddi doniol i blant yn trafod salwch o bob math gan feirdd amrywiol, ynghyd â darluniau cart?n du-a-gwyn i bob cerdd; i ddarllenwyr 8-11 oed.
Adolygiad Gwales
Unwaith eto, o stabal Gwasg Carreg Gwalch, dyma chwip o gyfrol fydd at ddant unrhyw blentyn syn hoff o hwyl a sbort geiriol. Mae yma lond syrjyri o gerddi gan llond ward o feirdd gwallgo (a gwael) yn trafod afiechydon a salwch. Mae cartwnau gwych Siôn Morris ar y clawr ac ar bob tudalen yn ychwanegu at ddoniolwch y cerddi i greu cyfrol syn llawn o hwyl ar draul pobol syn dioddef o ryw glwy neui gilydd. Dyma un Limrig Wael gan Tony Llewelyn:
Roedd gan fy hen fodryb rhyw wae
Fod pobol yn marwn eu gwlâu.
Perodd gymaint o loes
Iddi gydol ei hoes,
Bun cysgu am hydoedd mewn cae.
Mae pob cerdd yn werth ei dyfynnu, ond gan nad oes lle yma i wneud hynny, ewch i brynur gyfrol ar unwaith - ar gyfer eich plant ac ar eich cyfer eich hun! Maer gaeaf yn dod a bydd sawl annwyd yn ein poeni ond fel y g?yr pawb ohonom, mae chwerthin yn ffisig ynddoi hun. Maer gyfrol hon yn well nag unrhyw dabledi.
Meirion MacIntyre Huws