This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Un cwpwl... dwy stori garu
Pan gerddodd Gari i mewn i siop lyfrau yng Nghaerdydd, doedd o ddim yn disgwyl gweld y ferch o Lanberis a ddiflannodd o’i fywyd heb air o eglurhad dros ddeugain mlynedd ynghynt. Doedd Beth, chwaith, ddim yn disgwyl dod wyneb yn wyneb â’r dyn roedd hi wedi ceisio mor galed i anghofio amdano. Ond mae ffawd yn beth rhyfedd...
Nofel am garwriaeth bore oes, ac am fentro agor calon eto ar ôl pasio canol oed.
Bywgraffiad awdur
Mae Rhian yn awdur pum nofel i oedolion: Fi sy'n cael y ci, Môr a Mynydd, Plethu, Dathlu! a Gwaddol, nifer o lyfrau i blant, nofel i ddysgwyr a thri llyfr coginio. Yn frodor o Ddyffryn Peris, pan nad yw'n ysgrifennu, mi ddewch o hyd iddi yn y gegin neu'n crwydro'r bryniau efo'i chamera.