This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Tu Ôl i'r Llenni

  • £8.50
  • £0.00
  • Tu Ôl i'r Llenni
  • ISBN: 9781845277932
  • Eirlys Wyn Jones
  • Cyhoeddi: Mehefin 2021
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen

Mae'r Ail Ryfel Byd ar ei anterth, a dynion cefn gwlad Cymru yn ymladd yn y ffosydd. Mae merched un gymuned fechan yn Eifionydd yn gorfod dygymod â bywyd heb eu gw?r, eu meibion a'u brodyr, gan geisio magu a bwydo'u teuluoedd mewn cyfnod ansicr. Tydi pob merch ddim yn dygymod cystal ag eraill, ond cânt oll eu heffeithio pan sylweddolant fod rhywbeth yn stelcian o gwmpas eu tai yn y nos.

Bywgraffiad Awdur:

Cafodd Eirlys Jones ei magu yn Rhosfawr a'r Ffôr, ar y ffin rhwng Ll?n ac Eifionydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Y Ffor ac yna Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn gadael yr ysgol yn 16 oed a mynd i weithio i swyddfa'r Dreth Incwm cyn priodi Griff a chael tri o blant, Lynne, Iolo a Non. Mae ganddi erbyn hyn wyth o wyrion a wyresau.

Bu'n ffermio yng nghartref y teulu yn Chwilog nes iddi ymddeol yn 2017, ac er iddi fod â diddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg erioed (a chystadlu ambell waith ar gystadlaethau llenyddol mewn eisteddfodau lleol) wnaeth hi ddim troi at ysgrifennu o ddifrif tan iddi ymddeol. Mentrodd anfon ei nofel gyntaf, Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti? (gydag anogaeth ei g?r) i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018, a chafodd ganmoliaeth gan y beirniaid, Meinir Pierce Jones, Bet Jones a Gareth Miles, am ei hiaith goeth.

Mae Eirlys wrthi'n gweitho ar ei thrydedd nofel, ac yn ei hamser hamdden mae'n mwynhau teithio ymhell ac agos, darllen, garddio a gwaith llaw.

Gwybodaeth Bellach:

Mae'r Ail Ryfel Byd ar ei anterth, a dynion cefn gwlad Cymru wedi cael eu galw i ymladd dros fyddin Prydain. Yn ôl yn Eifionydd, mae merched un gymuned fechan yn gorfod dygymod â bywyd heb eu gw?r, eu meibion a'u brodyr, gan geisio magu a bwydo'u teuluoedd mewn cyfnod ansicr iawn. Tydi pob un or menywod ddim yn dygymod cystal ag eraill, ond caiff pob un ohonynt eu heffeithio pan sylweddolant fod rhywbeth neu rywun yn stelcian o gwmpas eu tai yn y nos ...