This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Tua'r Gorwel

  • £8.50
  • £0.00
  • Tua'r Gorwel
  • ISBN: 9781845279080
  • Eirlys Jones
  • Cyhoeddi: Tachwedd 2023
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen

Pan ddaw Ifan adref o'r Ail Ryfel Byd i'w gartref yng nghefn gwlad Eifionydd, mae Mair, ei wraig yn falch iawn o'i weld. Wedi'r cyfan, chafodd rhai o'i gyfoedion ddim dychwelyd. Ond, â chysgod yr ymladd wedi gadael eu hôl ar Ifan, sut all y teulu bach oroesi?

Bywgraffiad Awdur:

Cafodd Eirlys Jones ei magu yn Rhosfawr a'r Ffôr, ar y ffin rhwng Ll?n ac Eifionydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Y Ffor ac yna Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn gadael yr ysgol yn 16 oed a mynd i weithio i swyddfa'r Dreth Incwm cyn priodi Griff a chael tri o blant, Lynne, Iolo a Non. Mae ganddi erbyn hyn wyth o wyrion a wyresau.

Bu'n ffermio yng nghartref y teulu yn Chwilog nes iddi ymddeol yn 2017, ac er iddi fod â diddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg erioed (a chystadlu ambell waith ar gystadlaethau llenyddol mewn eisteddfodau lleol) wnaeth hi ddim troi at ysgrifennu o ddifrif tan iddi ymddeol. Mentrodd anfon ei nofel gyntaf, Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti? (gydag anogaeth ei g?r) i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018, a chafodd ganmoliaeth gan y beirniaid, Meinir Pierce Jones, Bet Jones a Gareth Miles, am ei hiaith goeth. Cyhoeddodd ei hail nofel Tu ôl i'r llenni yn 2021.

Yn ei hamser hamdden mae Eirlys yn mwynhau teithio ymhell ac agos, darllen, garddio a gwaith llaw.