This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Stori am gi defaid ar fferm yn Llŷn - Tyrbo - yn mynd ar goll. Mae Twm, ffrind pennaf Tyrbo yn torri'i galon ac yn colli diddordeb yn ei hoff bethau. Ond mae'r holl gymuned yn ceisio helpu i ddod o hyd i Tyrbo - o ffrindiau ysgol Twm, i'r cigydd, i'r plismon cefn gwlad. Mae pawb eisiau gweld y ci yn cyrraedd adref. Nofel anturus ac emosiynol.

Gwrandewch ar y gân: Tyrbo, Ble Mae O?
Bywgraffiad Awdur
Gwraig fferm o Lŷn sy’n gyn-athrawes, yn fam i dri o blant ac yn olygydd ac addasydd llyfrau plant gyda Gwasg Carreg Gwalch. Yn 2025, cyhoeddwyd ei chyfrol Ymlaen â Hi! – hanes me-nywod Cymru ym myd y campau. Mae eisoes wedi addasu dwy o nofelau Gill Lewis: Galwad yr Alarch a Barti a Bwystfil y Môr. Mae Elen hefyd yn paratoi adnoddau addysgol ar lyfrau plant – gwersi parod i athrawon sydd ar gael am ddim ar wefan y wasg.
Adolygiadau
Mae Twm a Tyrbo yn ffrindiau gorau. Mae’r ddau wrth eu boddau ar y fferm yn chwarae, yn helpu ac yn mynd am dro i’r traeth.
Ond pan ddaw Twm adref o’r ysgol un prynhawn Gwener, does dim golwg o’r ci. Mae pawb yn mynd ati i chwilio gan greu posteri ac ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae’n dod yn amlwg fod Tyrbo ar goll.
A fydd Twm yn dod o hyd i’w ffrind gorau?
Stori am gyfeillgarwch a chariad pobl at gŵn

- Iaith: Cymraeg
- Fformat: Clawr Meddal
- ISBN: 9781845241391
- Tudalennau: 90
- Oedran: 9+
- Pynciau: Plant, Pobl Ifanc yn eu Harddegau ac Addysgol, Ffuglen a straeon gwir i blant / pobl ifanc yn eu harddegau
- Maint: 128 (w) x 198 (h) x 9 (d) mm