This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
"Dywedodd Nain fod llewod bob amser yn rhuo. Bob amser," atebais. "Dylem ninnau fod fel llewod. Ddylem ni byth ofni cael ein clywed." Caiff Leonard sioc pan fydd yn cyrraedd gyda'i fam ym mhorthladd Southampton. Mae'i dad yn ddieithryn iddo; mae'n oer a dyw hyd yn oed bwyd Jamaicaidd ddim yn blasu'r un fath ag y gwnâi adref yn Maroon Town.
Gwybodaeth Bellach:
Ond mae’i rieni wedi dod ag ef yma i geisio bywyd gwell. Felly mae Leonard yn gwneud ei orau i beidio â chwyno, i wneud ffrindiau newydd, i wneud yn dda yn yr ysgol – hyd yn oed pan fydd pobl yn ei frifo gyda’u geiriau a’u dyrnau.
Sut gall bachgen mor bell oddi cartref ddysgu mwynhau ei fywyd newydd pan fo cymaint o bethau yn cyfrif yn ei erbyn?
“Stori amhrisiadwy i ddarllenwyr ifanc sydd am ddysgu am brofiadau cenhedlaeth Windrush.” – Alex Wheatle
"Dw i wrth fy modd gyda'r cyfieithiad – mae'n llifo'n hyfryd ..." – Malachy Edwards
-
ISBN: 9781845246303
-
Cyhoeddi: Chwefror 2025
-
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Rhys Iorwerth
-
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 196 tudalen