This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Y Cylch Cyfrin

  • £8.99

Mae Sedd wedi’i Chadw i Chi o Dan Gynfas Y Babell fawr...

1933 – Dresden, yr Almaen
Mae torfeydd yn heidio i berfformiadau Syrcas y Teulu Vogel, ac mae
bywyd yn braf i Daniel, y mab hynaf. Ond gyda’r Ail Ryfel Byd yn gysgod
ar y gorwel, am ba hyd y bydd hynny’n para?

2023 – Gogledd Cymru
Mae Syrcas y Brodyr Davies yn brwydro er mwyn cadw’r syrcas deuluol
draddodiadol yn fyw, er bod y gynulleidfa’n brin. Am ba hyd y gall Dan, y
penteulu, barhau i frwydro’n erbyn y newid mawr, anochel?

Magwyd Derfel F. Williams ym Mhorthmadog, ac yn ifanc iawn cafodd ei
hudo gan fyd y syrcas. Ar ôl gadael y coleg gwireddwyd ei freuddwyd a bu’n
gweithio fel perfformiwr syrcas proffesiynol am un mlynedd ar ddeg, cyn
rhedeg i ffwrdd i ymuno efo’r BBC fel darlledwr a chynhyrchydd radio.

  • ISBN: 9781845279677
  • Awdur: Derfel F. Williams
  • Cyhoeddi: Gorffennaf 2025
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen