This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Nofel ddirgelwch, yn cynnwys elfennau o ramant, hiwmor a chymhlethdodau teuluol. Cafodd y gyntaf yn y gyfres - Y Ferch ar y Cei - dderbyniad da iawn ac mewn blwyddyn pan ataliwyd y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Llyfr y Mis, Awst 2024). Cyhoeddodd sawl adolygydd mai Y Ferch ar y Cei oedd y 'Daniel Owen' y flwyddyn honno.
Bywgarffiad Awdur
Dyma ail nofel y newyddiadurwraig Catrin Gerallt. Cafodd ei geni yir Benfro a chafodd ei magu yng Nghaerdydd, lle mae’n byw hyd heddiw. Wedi astudio Ffrangeg yn y brifysgol, cafodd waith fel gohebydd yn BBC Cymru. Treuliodd ugain mlynedd fel Golygydd Cynorthwyol Materion Cyfoes, gan ennill gwobrau BT a BAFTA Cymru am ei rhaglenni ymchwiliadol. Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gyfrannu straeon i raglenni Radio Cymru a Radio 4. Yn 2019, cafodd ei haddasiad Saesneg o nofel T Llew Jones, Trysor y Môr-Ladron, enwebiad ar gyfer medal CILIP Carnegie. Yn fwy diweddar, cyfrannodd straeon byrion i’r gyfrol Gymraeg Clymau ac i’r casgliad Painting the Beauty Queens Orange, (Honno) llyfr y mis gan Waterstones yng Nghymru (2021) Mae Catrin yn ymddangos yn gyson ar radio a theledu fel colofnydd a sylwebydd ar y newyddion. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Y Ferch ar y Cei, Gorffennaf 2024
Adolygiadau
Dynes ganol oed yw Bethan Morgan sy’n mynd drwy gyfnod cythryblus yn y cartref ac yn y gwaith. Mae hi’n ohebydd ar raglen deledu materion cyfoes, ac mae Selwyn, ei bos seimllyd, nawddoglyd yn dipyn o boen.
Mae Y Ferch ar y Traeth wedi’i lleoli yng ngwyliau haf 2023, pan fo’r newyddiadurwraig, Bethan Morgan, ar ei ffordd i bentre hudolus Traeth Llyfn yn sir Benfro i weld ei mam ac i chwilio am straeon ar gyfer cyfres nesa’r Byd a’r Betws. Yn anffodus, mae gan ei bòs, Selwyn, drefniadau gwahanol ar ei chyfer ac mae’n ei galw yn ôl i’r swyddfa. Ond mae digon o ddeunydd i gadw Bethan yn brysur yn y Gorllewin – baetwyr moch daear, hwyl y Llew Coch a thai haf, hen sôn am Llion, rebel ifanc hanner ei hoed, sy’n llenwi’r bwlch a adawyd gan ei gŵr anffyddlon.
Ond a oes dirgelwch a thywyllwch yn taflu cysgodion dros ei chymar newydd?
Adolygiadau (Y Ferch ar y Cei)
‘Hon yw nofel gyntaf Catrin Gerallt. Nid ar chwarae bach y mae rhywun yn mynd ati i ysgrifennu nofel. Mae’n rhaid cael digon o ddychymyg, chwip o stori dda, cymeriadau difyr, a digonedd o stamina. Llwyddodd Catrin Gerallt i gyflawni’r gamp hon drwy gynnal fy niddordeb o’r dechrau i’r diwedd wrth i Bethan Morgan, ei phrif gymeriad, dyrchu’n is ac yn is i isfyd tywyll Caerdydd.
Er bod hon yn nofel gyffrous am ddynes eofn sy’n benderfynol o fynd at galon y gwir i fynnu cyfiawnder i drigolion Abertaf, mae hi hefyd yn nofel ddynol am chwalfa deuluol ac effaith hynny ar y rhieni a’r plant. Ond peidied neb â meddwl mai nofel ysgafn am helbulon domestig a throeon trwstan carwriaethol divorcée canol oed yw hon (nid fy mod i’n awgrymu bod hynny’n bwnc anniddorol, noder). Mae hi hefyd yn glamp o nofel dditectif garlamus a hynod ddarllenadwy.’
– Non Mererid Jones, Gwales
- ISBN: 9781845279967
-
Awdur: Catrin Gerallt
- Tudalennau: 300
- Dyddiad Cyhoeddi: 20/07/2026
- Maint: 128 (w) x 198 (h) x 14 (d) mm