Adolygiad Elin Llwyd Morgan i bapur bro Yr Ysgub
Yn wahanol i’w thair nofel flaenorol, sydd wedi bod yn rhannol hunangofiannol neu’n seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol, nofel ddychmygus ag iddi elfennau o’r goruwchnaturiol ydi cyfrol ddiweddaraf Sian Rees.
Er, nid dyna oedd ei bwriad gwreiddiol chwaith, fel yr eglura’r awdur:
‘Wrth gynllunio Bron y Nant, ro’n i am sgrifennu nofel am ddathliad hudol y Nadolig mewn pentref gwledig, ond yn raddol daeth hen fwthyn Bron y Nant a’i ysbryd yn gynyddol bwysig yn y stori… ac o ganlyniad mae’r stori’n gwibio’n ôl ac ymlaen rhwng y presennol a’r gorffennol,’ meddai.
Yn y presennol, mae Esther - athrawes ysgol uwchradd sydd wedi’i dadrithio braidd yn ei swydd - yn derbyn dau lythyr ar ddiwrnod ola’r tymor sy’n peri iddi ffoi i bentref Llanfeuno, lle mae hi wedi etifeddu bwthyn gan hen fodryb iddi.
Wedi noson gyntaf o lochesu rhag storm eira yn yr hen furddun, mae Esther yn cyrraedd ei chyrchfan yng ngwesty’r Tŷ Gwyn, ac wrth ddisgrifio ei harhosiad mae’r awdur yn sicr yn llwyddo i greu naws Nadoligaidd clyd, a chefais gryn flas ar y disgrifiadau amheuthun o’r prydau bwyd y mae’n eu mwynhau yno!
Ond er moethusrwydd cartrefol y gwesty, a’i chyfeillgarwch â Gwilym – dyn lleol sy’n ei helpu i durio i hanes dirgel Bron y Nant – daw’n amlwg bod Esther yn dianc rhag ei bwganod ei hun, a bod gan yr ail lythyr a dderbyniodd rywbeth i’w wneud â’r peth, er mai’n raddol y datgelir y gyfrinach honno wrth i’r stori fynd rhagddi.
Mewn nofelau fel hyn lle mae’r stori’n symud yn ôl ac ymlaen rhwng y presennol a’r gorffennol, mae’n well gen i’r darnau mwy cyfoes fel arfer (barn gwbwl bersonol), ac er bod hynny’n wir i raddau yn yr achos yma hefyd, mae’r rhannau sydd wedi’u gosod ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cydio, yn enwedig wrth i’r cysylltiadau rhwng cymeriadau’r ddau gyfnod ddod i’r fei.
Mae’n nofel wedi’i saernïo’n gelfydd gan awdur sy’n amlwg yn feistr ar ei chrefft, a’r stori’n llifo mewn iaith rwydd a graenus. Mae Esther yn brif gymeriad credadwy hawdd uniaethu â hi, yn yr un modd â’r cymeriadau eraill ar y cyfan, er bod ambell un annymunol hefyd, fel ym mhob cyfrol gwerth ei halen.
Ond tra bod cymeriad y gŵr bonedd sy’n cymryd ffansi at Hanna’r forwyn ddiniwed yn llai ystrydebol na’r disgwyl, rhy ddu a gwyn ydi cymeriad gwrywaidd arall mwy cyfredol, a byddai’r nofel wedi bod ar ei hennill petai hwnnw wedi cael ei bortreadu’n fwy cynnil.
Bron nad ydi prif leoliad y nofel, pentref dychmygol Llanfeuno, yn gymeriad ynddo’i hun hefyd. Pentref a ddisgrifir fel un ‘bach del iawn… agos at y ffin’. Dwn i ddim a oedd gan yr awdur (sy’n hanu o’r Rhyl) rywle penodol mewn golwg, ond y pentref oedd gen i mewn golwg wrth ddarllen oedd Llanarmon yma yn Nyffryn Ceiriog.
Hyd yn oed os nad ydi llenyddiaeth sy’n ymwneud ag ysbrydion ac ati yn mynd â’ch bryd, peidiwch â gadael i hynny eich atal rhag darllen y nofel afaelgar, llawn awyrgylch a dirgelwch hon – heb sôn am ambell dro annisgwyl…