This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Adolygiad Llwybr i Ben Draw'r Byd

Adolygiad Llwybr i Ben Draw'r Byd

Llwybr i Ben Draw’r Byd - Cerdded y Camino Francés

Ifan Huw Dafydd

Mae dau fath o gyfrol sy’n heriol i’w hadolygu, i minnau beth bynnag  rhai gwachul a rhai gwych. Y math cyntaf am nad wyf yn hoffi bod yn gas a bod pawb yn y byd sgwennwyr Cymraeg yn nabod ei gilydd rywsut! A’r ail fath, wel, mae’n anodd peidio canu clodydd i’r cymylau a swnio’n ffals.

 Ond rhaid ei dweud hi fel y mae hi – dyma un o’r cyfrolau y ces i’r pleser mwyaf o’i ddarllen erioed. Gallwn yn hawdd fod wedi ei ddarllen mewn un eisteddiad (neu gerddediad yn fy nychymyg) ond fe weithiodd yn well bod rhaid i mi, oherwydd gofynion gwaith arall, ddarllen hyn a hyn y dydd. Effaith hynny oedd fy mod, fel y pererin ei hun, yn cychwyn ar y darn nesaf o’r daith gyda fo bob tro yr ailafaelwn yn y darllen. Daeth hynny’n brofiad mor fyw i mi fel fy mod yn agor y gyfrol gan ofyn ‘Reit, be’ welwn ni a phwy gawn ni’n gwmni heddiw?’ Byddwn yn awgrymu’n gryf mai’r ffordd orau o ddarllen y gyfrol hon fyddai cyd-fywhau darnau o’r daith fel yna.

 Nid tasg ysgafn mo cerdded wyth can cilomedr, ac nid yw Ifan Huw yn osgoi crybwyll y profiadau anodd – y pothelli, y gwres, y rhiwiau serth, ambell lety llai croesawgar (er mai prin oedd y rheini). Serch hynny, drwy’r cyfan, braint a hwyl pererindota sydd amlycaf, ac yn arbennig yr amrywiol gymeriadau sy’n rhannu darnau o’r daith ag o, rhai dros dro, eraill yn ymddangos yn gyson ar hyd y llwybr. Nid yn unig oeddwn i’n teimlo fy mod yn cyd-deithio â’r awdur, ond fy mod hefyd wedi dod i adnabod pobl fel Bobby, Calamity a Cathy Osgeiddig – gobeithio bod crybwyll ambell un o’r cymeriadau’n ysgogi rhai i fynd am y gyfrol i ddarganfod mwy!

Dysgais pan fûm yn un o’r beirdd preswyl, neu deithiol yn hytrach, ar Lwybr Cadfan Sant o Dywyn i Enlli (tipyn llai nag wyth can cilomedr!) arfer mor gynhwysol ydi pererindota ac mor amrywiol yw pererinion – rhai’n teithio am resymau amlwg Gristnogol, eraill â chymhelliad ysbrydol llai penodol, eraill am fwynhau harddwch y dirwedd, ac eto eraill heb wybod pam wir. Nid pererin o gred Gristnogol mo Ifan Huw, ond mae’n amlygu’r hyn a welais ym mhrofiad sawl un ar Lwybr Cadfan, sef bod y profiad wedi ei newid rywsut, boed hynny drwy wefr y golygfeydd, awyrgylch eglwysi bach a mawr, cwmni’i gyd-bererinion neu beth bynnag – ac mae’n myfyrio llawer ynghylch yr agwedd hon ar y profiad wrth gofnodi ei daith. Fel mae’n ei ddweud wrth gyrraedd pen y daith, y tu hwnt i Santiago de Compostela, yn Fisterra, Pen Draw’r Byd fel y byddai i’r hen bererinion: ‘Falle fod y bererindod yma wedi fy ngwneud yn fwy o bagan nag oeddwn cynt...’ Nid taith ddaearyddol yn unig mo pererindod, byth.

Roedd arddull hynod ddarllenadwy Ifan Huw Dafydd a’i ddefnydd o dafodiaith yn cryfhau’r teimlad fy mod ar y daith gyda fo. Fel mae’n digwydd, wrth ochr fy nesg wrth i mi ysgrifennu’r geiriau hyn mae fy ffon bererin o Santiago, gyda’r gragen fylchog a chroes y sant, sy’n fy atgoffa i minnau hefyd gerdded y Camino. Oce, olreit, dim ond cwpwl o gilomedrau at y Gadeirlan! Ond dw i’n teimlo i mi ddod i adnabod y Camino Francés ar ei hyd bellach, os ond mewn dychymyg, yng nghwmni Ifan Huw Dafydd. A phwy ŵyr, efallai iddo fy ysgogi i fentro go iawn cyn bo hir, pothelli a phopeth...

Siôn Aled