Mae addasiad Elen Williams o lyfr poblogaidd Gill Lewis bellach yn y siopau.
Mae Galwad yr Alarch yn stori arbennig sy’n adrodd hanes bachgen ifanc sy’n isel ei ysbryd ond yn dod o hyd i oleuni wrth iddo achub un o’r elyrch gwyllt sy’n ymweld â’r ardal bob blwyddyn. Bu’r awdur gwreiddiol Gill Lewis yn gweithio fel milfeddyg ar draws y byd cyn dod yn awdur. Mae’i straeon yn aml yn cynnwys adar ac anifeiliaid ac yn procio darllenwyr ifanc i ystyried eu hamgychedd a gwarchod byd natur.
Mae’r prif gymeriad Dylan dan y don. Ers iddo ddechrau yn yr ysgol uwchradd, mae popeth wedi mynd yn drech nag ef. Erbyn hyn mae wedi cael ei ddi-arddel o’r ysgol ac mae’n rhaid i’w fam ac yntau symud i bentref bychan ar arfordir gorllewinol Cymru. Yno y magwyd ei fam ac yno mae ei daid yn byw. Ond pan mae Taid yn cynnig i Dylan ddod yn ei gwch gydag ef i’r aber i wylio’r elyrch yn dychwelyd i’w tir gaeaf, mae bywyd Dylan yn newid.
Gall hon gael ei mwynhau gan ddarllenwyr 9+ oed, neu’n ieuengach os yn ddarllenwyr hyderus.
“Treialwyd y gyfrol wreiddiol gan ddisgyblion ysgol yn yr Alban er mwyn sicrhau ei bod hi’n darllen yn rhwydd i’r gynulleidfa darged,” meddai Elen Williams golygydd llyfrau plant y wasg. “Fe welwch chi hyn wrth ei darllen, mae’r testun ei hun a’r modd y mae wedi ei osod yn gwneud y llyfr yn llawer caredicach i’r darllenydd – hyd yn oed y rhai sy’n llai hyderus yn eu darllen. Ceir themâu amrywiol; iselder ysbryd, byd natur a phroblemau iechyd ond mae’r rhain oll yn bethau sy’n taro bywydau pobl ifanc ac felly mae’n bwysig fod cyfle iddynt ddarllen amdanynt o bersbectif plentyn yr un oed.”
Bydd adnoddau sy’n cyd-fynd â’r gyfrol ar gael ar wefan Gwasg Carreg Gwalch yn rhad ac am ddim hefyd.
Mae Galwad yr Alarch bellach ar ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar wefan y wasg, www.carreg-gwalch.cymru, ac ar wefan y Cyngor Llyfrau Cymru, www.gwales.com. Darlunydd y clawr: Rhian Llewelyn Hughes
This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.