This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

"Mae’n Wlad i Mi" Cyhoeddi Hunangofiant Edward Morus Jones

"Mae’n Wlad i Mi" Cyhoeddi Hunangofiant Edward Morus Jones

Mae un o sylfaenwyr y canu ‘pop’ Cymraeg newydd ddathlu’i bedwar ugain. Os nad ydi hynny yn dangos fod ein canu cyfoes wedi dod i oed – beth sydd! Yr arloeswr hwnnw, wrth gwrs, yw Edward Morus Jones ac eleni hefyd mae’n cyhoeddi ei hunangofiant.

 

Dyma sut mae Dafydd Iwan yn cofio recordio’i record gyntaf i gwmni Teldisc gydag Edward y 1960au:

‘Nid anghofiaf fi byth y sesiwn recordio cyntaf hwnnw, yng Nghlwb Cymdeithasol Crynant yng Nghwm Dulais, y cwm syn rhedeg yn gyfochrog â Chwm Nedd. Bore Sul oedd hi, a gwirfoddolwyr y clwb yn golchi gwydraur noson gynt am y pared â ni. Roedd yn brofiad cwbl newydd ir ddau ohonom, a safem o flaen un meicroffon a pheiriant recordio Ferrograph, a ffwrdd â ni! Doedd Jo Jones (a weithiai i Teldisc ar y pryd, cyn gadael i sefydlu cwmni Cambrian) ddim yn poeni rhyw lawer am safon y canu, ond swniai yn fodlon iawn wedi inni recordio 4 cân ar gyfer EP. Gan ir gwaith gael ei wneud mor gyflym, Os rhagor o ganeuon gyda chi?oedd cwestiwn Jo, wath inni neud EP arall tra boni ma.Wedi meddwl am sbel, daeth Edward a minnau ir casgliad fod tair cân arall yn barod, ond methwyd â chael hyd i eiriau Cymraeg Edward i glasur Woody Guthrie, This Land is My Land, felly doedd dim amdani ond cyfansoddi penillion i honnon y fan ar lle. Ar fersiwn a glywir ar yr EP honno oedd y tro cyntaf i Edward a minnau ei chanu, er i gannoedd o berfformiadau ddilyn wedyn.’

 

Cofleidiodd Edward ei wlad yn ei ganu ac mae’r hunangofiant yn creu darlun o un oedd yn caru pob cwr o Gymru, yn gwerthfawrogi pob cyfle a gawsai i gydweithio dros yr iaith gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion ar hyd ac ar led y wlad. Cawn ddarlun o’i fagwraeth yn Llanuwchllyn a’r addysg bellach yn Ysgol Ramadeg y Bala. Bu’n gweithio i Farmers Marts cyn mynd am y Coleg Normal ac yna’n athro yng Nghaerdydd a Thon-teg. Daeth yn ôl i Lanuwchllyn cyn symud i Landegfan, Môn. Ym mhob man, bu’i gyfraniad i weithgareddau’r Urdd ac i ddatblygu cyrsiau i ddysgwyr Cymraeg yn ddiarhebol.

Mae’i stori yn mynd â ni y tu hwnt i ffiniau Cymru yn ogystal. Dechreuodd ymwneud â gwaith Undeb y Cymry ar Wasgar ym 1983 a bu’n allweddol wrth lwyddo i ddiweddaru a bywiogi’r ddarpariaeth ar gyfer Cymry sy’n dychwelyd i’r Brifwyl o bedwar ban byd. Yn ei dro, ymwelodd yntau â chymdeithasau Cymraeg dramor a chawn flas ar eu dathliadau yn y gyfrol. Gwirfoddolodd hefyd i wneud gwaith dyngarol yn Israel a Phalesteina.

 

Wrth gau pen y mwdwl, mae’n naturiol ei fod yn cloi gyda’i gyffro wrth weld cenedlaethau iau ei deulu yn ysgwyddo cyfrifoldebau ac yn disgleirio. Hunangofiant annwyl a gobeithiol gan un sydd â straeon da i’w rhannu. I gloi, cynhwysir geiriau nifer o’i ganeuon – ac mae’r rheiny’n peri i’r atgofion lifo yn ogystal! 

 

Bydd Mae’n Wlad i Mi ar werth ar 31 Gorffennaf mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg.gwalch.cymrua gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com