This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Hanes Byw 7 ar gael yn awr!

Hanes Byw 7 ar gael yn awr!

Croeso i rifyn y gaeaf. Ddeugain mlynedd yn ôl roedd streic fawr y glowyr yn ei hanterth, ac mae sawl erthygl yn y rhifyn hwn sy’n cyffwrdd ym mhwysigrwydd y diwydiant glo gynt, yn y Rhondda, ardal Wrecsam ac Aber-carn.

Awn hefyd i Lanberis i ddysgu am ddeinameit; i Langyndeyrn, y cwm na chafodd ei foddi; a chawn hanes y Cymro a geisiodd fyd gwell iddo’i hun yn y Wladfa – a’r Cymro a ddysgodd rygbi i bobl Gwlad y Basg!

Mae llun trawiadol ar y clawr i gofio am y trueiniaid a gollwyd i’r wyrcws mewn sawl tref, ac mae ein colofn ‘Rhwng Llinellau Hanes’ yn mynd â ni ar ôl hanes coll eu byd nhw. Adfer hanesion coll yw nod y gyfres deledu newydd, Cyfrinachau’r Llyfrgell, hefyd, a chawn rywfaint o gefndir y prosiect hwnnw.

Yn olaf, braf yw rhannu fod dyfodol y cylchgrawn yn sicr am y blynyddoedd nesaf – ond pan lansiwyd Hanes Byw yn wreiddiol, nid oedd modd derbyn tanysgrifiad am fwy na phedwar rhifyn cyntaf y cyfnod prawf. Diolch felly i’r rhai sydd eisoes wedi adnewyddu eu tanysgrifiad, ond po fwyaf sy’n gwneud, gorau’n y byd o ran gosod y cylchgrawn ar sail gadarnach at y dyfodol. Beth am roi tanysgrifiad yn anrheg Nadolig i gyfaill? Diolch i chi rhag blaen – a mwynhewch y rhifyn hwn!

Ar gael mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg.gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com