This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Un o blant y Windrush – cyhoeddi addasiad o nofel Benjamin Zephaniah

Un o blant y Windrush – cyhoeddi addasiad o nofel Benjamin Zephaniah

“Stori amhrisiadwy i ddarllenwyr ifanc sydd am ddysgu am brofiadau cenhedlaeth Windrush.” – Alex Wheatle

Caiff Leonard sioc pan fydd yn cyrraedd gyda'i fam ym mhorthladd Southampton. Mae'i dad yn ddieithryn iddo; mae'n oer a dyw hyd yn oed bwyd Jamaicaidd ddim yn blasu'r un fath ag y gwnâi adref yn Maroon Town.

Ond mae’i rieni wedi dod ag ef yma i geisio bywyd gwell. Felly mae Leonard yn gwneud ei orau i beidio â chwyno, i wneud ffrindiau newydd, i wneud yn dda yn yr ysgol – hyd yn oed pan fydd pobl yn ei frifo gyda’u geiriau a’u dyrnau.

Sut gall bachgen mor bell oddi cartref ddysgu mwynhau ei fywyd newydd pan fo cymaint o bethau yn cyfrif yn ei erbyn?