This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Diwedd y Gân

  • £8.99

Mae Konquest yn gweithio'n galed i ddod yn un o fandiau roc mwyaf adnabyddus Cymru, ond bob tro maen nhw'n dod gam yn nes ar wireddu'r freuddwyd, mae rhywbeth yn eu rhwystro.  Erbyn hyn mae Sophie, y gantores, yn dechrau amau mai hi ydi'r broblem, ac yn dechrau cwestiynu ei dyfodol efo'r band ...

Nofel newydd gan awdures Curiad Gwag, #Helynt a Mwy o Helynt ac enillydd Gwobr Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn i Blant a Phobl Ifanc, 2021. Mae Rebecca Roberts yn gyfieithydd sydd wrth ei bodd â cherddoriaeth roc, ac yn byw ym Mhrestatyn gyda’i gŵr a’i phlant.

‘Chwip o ddilyniant i Curiad Gwag gan rock chick y sin lenyddol’ – ElinLlwyd Morgan
‘Mae’r cymeriadau ’ma yn sownd yn fy mhen i!’ – Caryl Morris Jones

  • ISBN: 9781845279554
  • Cyhoeddi: Mawrth 2025
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen