This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Newyddion

"Chwip o ddilyniant i Curiad Gwag"

"Chwip o ddilyniant i Curiad Gwag"

Yn dilyn llwyddiant Curiad Gwag, nofel yn dilyn hynt a helynt aelodau band roc o’r enw Konquest, mae’r awdures o Brestatyn, Rebecca Roberts, yn cyhoeddi dilyniant i gau pen y mwdwl ar anturiaethau’r band.Prif gymeriad y nofel yw Sophie, sy’n hanu o Sir y Fflint: rheolwr taith y band ac, ers diwed...
Cyhoeddi nofel ddiweddaraf Geraint Lewis

Cyhoeddi nofel ddiweddaraf Geraint Lewis

Mae antur a dirgelwch yn ganolog i nofel newydd Geraint Lewis, ynghyd â dogn helaeth o hiwmor crafog.Dau gyfaill bore oes yw Haydn a Rhys, sydd wedi teithio o Geredigion i Ynys Môn er mwyn profi damcaniaeth Haydn fod ei fab yng nghyfraith yn cael affêr. Wrth iddyn nhw gynnal eu stake-out mewn mae...
Hanes Byw 7 ar gael yn awr!

Hanes Byw 7 ar gael yn awr!

Croeso i rifyn y gaeaf. Ddeugain mlynedd yn ôl roedd streic fawr y glowyr yn ei hanterth, ac mae sawl erthygl yn y rhifyn hwn sy’n cyffwrdd ym mhwysigrwydd y diwydiant glo gynt, yn y Rhondda, ardal Wrecsam ac Aber-carn. Awn hefyd i Lanberis i ddysgu am ddeinameit; i Langyndeyrn, y cwm na chafodd ...
Cyhoedi atgofion Haf!

Cyhoedi atgofion Haf!

Mae Haf Thomas o Lanrug yn dipyn o gymeriad! Mae wedi llefaru ar lwyfan yr Urdd, mae wedi bod yn ecstra ar Pobol y Cwm, mae wedi switsio goleuadau’r Nadolig ymlaen yng Nghaernarfon – ac mae wedi codi trigain mil o bunnoedd i elusennau gwahanol. Hyn i gyd gan ferch sy’n gwrthod gadael i anawsterau...