- ISBN: 9781845276706
- Ruth Pritchard, Aron Pritchard
- Cyhoeddi Gorffennaf 2018
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 92 tudalen
Cyfrol o gerddi ar y cyd gan fam a mab, sef Ruth ac Aron Pritchard, yw Adenydd a Chadwyni, cerddi a gronnwyd dros sawl blwyddyn ac sy'n amrywio'n eang o ran eu mesurau a'u themâu.
Bywgraffiad Awdur:
Ruth: Cafodd Ruth ei magu yng Nghynwyl Elfed ac maen byw yno heddiw gydai g?r, Steve. Dyma lle maged eu tri plentyn yn ogystal. Ers iddi orffen rhoi gwersi gitâr yn ddiweddar, maen cadwn brysur drwy ysgrifennu penillion ar gais ar gyfer achlysuron arbennig. Yn 1992, cyhoeddodd ddau lyfr i blant straeon Cledwyn y Cwch Bach Coch ac mae hin un o gyfranogwyr y gyfres o lyfrau barddoniaeth i blant, Cerddi Lloerig. Cipiodd sawl Cadair mewn eisteddfodau lleol a hi oedd y ferch gyntaf i ennill cadair G?yl Fawr Aberteifi yn 1995. Enillodd Gadair Eisteddfod Dyffryn Conwy yn 1996, ar wobr am y Delyneg yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr y flwyddyn honno hefyd. Er ei bod yn mwynhau ysgrifennu ar fydr ac odl, ac yn arbennig o hoff o delynegion, y mesur penrhydd yw ei ffefryn.
Aron:
Cafodd Aron ei eni yng Nghaerfyrddin ai fagu yng Nghynwyl Elfed, ac aeth i ysgol gynradd y pentre ac Ysgol Bro Myrddin. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn y Gyfraith ond erbyn hyn maen gyfieithydd i Brifysgol Caerdydd ac yn byw yn y ddinas honno. Enillodd sawl un o wobrau barddoniaeth yr Urdd, a Chadair yr Ifanc yn Eisteddfod Llambed deirgwaith, a chanwyd cerdd oi eiddo yn y seremoni gynta i agor y Cynulliad, yn 1999. Maen aelod o dîm Aberhafren ar y Talwrn (cafodd Dlws Coffa Dic yr Hendre am gywydd goraur gyfres yn 2011) a thîm Morgannwg yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hefyd yn un o Feirdd y Bragdy yn y nosweithiau barddoniaeth byw poblogaidd, Bragdyr Beirdd, yng Nhghaerdydd.
Gwybodaeth Bellach:
Cerddi rhydd sydd gan Ruth ac mae byd natur yn ddylanwad cyson arnynt, tra mai canun gaeth wna Aron âi gerddin aml yn ymateb iw gynefin dinesig yng Nghaerdydd. Maer gyfrol yn blethiad o gerddi llon a lleddf syn ein tywys at ddolffins ym Mae Ceredigion yn ogystal â g?r digartref yn yr Aes; mae ynddi gerddi cyfarch ac yn naturiol ddigon hefyd, maen cynnwys ambell gerdd i aelodau eraill or teulu. Er bod gan y naill fardd ar llall gerddi gwahanol iawn iw cynnig (ar yr un pwnc, weithiau), fel y dywed Tudur Dylan yn ei ragair, maen nhwn lleisiau syn cyffwrdd âr un themâu oesol. Hon ywr gyfrol gyntaf gan Ruth ac Aron.